Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

 

Papur tystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft 2024-25 – Cyllidebau'r Gymraeg ym Mhrif Grŵp Gwariant Addysg a'r Gymraeg

 

11 Ionawr 2024 (9.30-11.00)

 

Mae'r papur hwn yn rhoi gwybodaeth i'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol am ddyraniadau cyllidebol sy'n berthnasol i'r Gymraeg yn y cynigion ar gyfer Prif Grŵp Gwariant y Gymraeg ac Addysg a amlinellwyd yng Nghyllideb ddrafft 2024-25, a gyhoeddwyd ar 19 Rhagfyr 2023. Mae hefyd yn rhoi diweddariad ar feysydd penodol sydd o ddiddordeb i'r Pwyllgor.

 

1.         Sylwebaeth ar Gamau Gweithredu a manylion dyraniadau Llinellau Gwariant yn y Gyllideb

 

1.1      Pan wnaethom gyhoeddi ein Hadolygiad amlflwydd o Wariant Cymru yn 2022, nodwyd cynlluniau uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r iaith. Roedd cyllidebau a bennwyd ar gyfer cyfnod o dair blynedd i ddechrau yn adlewyrchu cynnydd[1] o £5.8m (15.4%) yn 2022-23, gyda chynnydd pellach o £3m (6.9%) yn 2023-24 a £3.5m (7.5%) yn 2024-25 a oedd yn gysylltiedig yn benodol â'r Cytundeb Cydweithio. Yng nghyllideb y flwyddyn diwethaf gwnaethom barhau â'r cyllid hwnnw, gan roi cynnydd refeniw o £0.15m i Gomisiynydd y Gymraeg o 2023-24.

 

1.2      Yn wyneb yr amgylchiadau ariannol eithriadol rydym yn eu hwynebu bu angen dull mwy sylfaenol. Rydym wedi ail-lunio'r dyraniadau o wariant dangosol yn ein cyllideb i roi cyllid ychwanegol i'r gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl a chymunedau ledled Cymru a'u diogelu, sef y GIG a setliad llywodraeth leol craidd, sy'n ariannu ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol a gwasanaethau pob dydd eraill. Mae hyn wedi arwain at ailflaenoriaethu ychydig o dan £103m (5.68%) o gyllideb y Gymraeg ac Addysg.

 

1.3      Rydym wedi gweithio'n galed i gyfyngu ar yr effeithiau ar gyllid ar gyfer y Gymraeg, gan gynnwys parhau â'r cyllid sy'n gysylltiedig â'r Bil Addysg Gymraeg, Mudiad Meithrin a chyllideb Cymraeg mewn Addysg. O ganlyniad i'r ymarfer ailflaenoriaethu ar gyllidebau'r Gymraeg mae'r swm o £3.668m wedi cael ei ddychwelyd i'r cronfeydd wrth gefn. Er ein bod yn ailflaenoriaethu £3.5m o'r cyllid sy'n gysylltiedig â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, rydym yn cynnal cyllidebau at lefelau 2023-24 er mwyn sicrhau cyn lleied o darfu ar sector y Gymraeg. Caiff y cyllid hwn ei ailbroffilio a'i ystyried yng nghyd-destun y systemau sy'n cael eu datblygu ar gyfer ymrwymiadau ariannol parhaus o dan y Cytundeb Cydweithio, fel y'i nodwyd ym mhennod 1 o naratif y brif gyllideb ddrafft. Mae penderfyniad trawslywodraethol wedi arwain at ostyngiad o 5% yng nghyllideb y pedwar Comisiynydd statudol, gan gynnwys £0.168m ar gyfer Comisiynydd y Gymraeg (gweler adran 3.2).

 

1.4      Mae'r tabl isod yn crynhoi'r newidiadau i gyllidebau'r Gymraeg ar gyfer 2024-25.

 

Cam Gweithredu

£000oedd

Llinell Wariant yn y Gyllideb

2024-25
Dangosol
(Cyllideb Derfynol 2023-24 – Chwefror 2023)

2024-25
Cyllid a Ailflaenoriaethwyd

2024-25
Cyfuno Grantiau

2024-25
Newidiadau Eraill

2024-25
Cyllideb Ddrafft
(Rhagfyr 2023)

£000oedd

Cymorth Addysg Cyn-16 drwy ALlau

Cymraeg 2050 (Grant Addysg i Awdurdodau Lleol)

0

0

9,770

0

9,770

Cyfanswm Cymorth Addysg Cyn 16 drwy ALlau

0

0

9,770

0

9,770

Cymraeg mewn Addysg

Cymraeg mewn Addysg

24,275

-3,500

-2,200

-1,675

16,900

Cyfanswm Cymraeg mewn Addysg

24,275

-3,500

-2,200

-1,675

16,900

Y Gymraeg

Y Gymraeg

22,404

0

-500

1,675

23,579

Comisiynydd
y Gymraeg

3,357

-168

0

0

3,189

Comisiynydd y Gymraeg - Heb Fod yn Arian Parod

121

0

0

0

121

Cyfanswm y Gymraeg

25,882

-168

-500

1,675

26,889

Cyfanswm Cyllidebau Adnoddau'r Gymraeg

50,157

-3,668

7,070

0

53,559

Y Gymraeg

Comisiynydd y Gymraeg - Heb Fod yn Arian Parod

50

0

0

0

50

Cyfanswm y Gymraeg

50

0

0

0

50

Cyfanswm Cyllidebau Cyfalaf y Gymraeg

50

0

0

0

50

Cyfanswm Cyllidebau'r Gymraeg

50,207

-3,668

7,070

0

53,609

 

1.5      Fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i leihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol, er mwyn eu galluogi i ganolbwyntio ar eu gwaith hollbwysig o ddarparu gwasanaethau rheng flaen. Felly, yn y gyllideb hon, rydym yn cynnig dull newydd o ymdrin â chyllid grant addysg cyn 16, er mwyn sicrhau nad yw awdurdodau lleol nac ysgolion yn cael eu llesteirio gan fiwrocratiaeth ddiangen. O 2024-25, rydym yn cynnig y dylid cyfuno'r grantiau i awdurdodau lleol a chonsortia, gan gynnwys grantiau'r Gymraeg, yn un cynllun grant o'r enw Grant Addysg i Awdurdodau Lleol. Bydd y cynllun grant hwn yn cynnwys pedair elfen o gyllid addysg, gan gynnwys Cymraeg 2050 (y lleill yw Safonau Ysgolion, Tegwch a Diwygio).

 

1.6      Bydd y cyllid hwn yn hollbwysig er mwyn cyflwyno'r Bil arfaethedig ar Addysg Gymraeg. Bydd y Llinell Wariant newydd yn y Gyllideb ar gyfer Cymraeg 2050 (Grant Addysg i Awdurdodau Lleol) yn darparu cyllid o £9.77m drwy'r grant hwnnw, gan gyfuno cyllid y Grant Cymraeg mewn Addysg (Llinell Wariant yn y Gyllideb Grant Gwella Ysgolion), Dysgu Proffesiynol (Llinell Wariant yn y Gyllideb Datblygu a Chefnogi Athrawon), darpariaeth trochi hwyr (Llinell Wariant yn y Gyllideb Cymraeg mewn Addysg) a'r Siarter Iaith (Llinell Wariant yn y Gyllideb y Gymraeg).

 

1.7      Drwy ymgorffori'r newidiadau hyn, bydd cyfanswm cyllideb ddangosol o £53.6m i gefnogi'r Gymraeg yn 2024-25 – £53.559m adnoddau a £0.05m cyfalaf (heb gynnwys Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg drwy Linell Wariant yn y Gyllideb Seilwaith Addysg – ceir rhagor o wybodaeth yn adran 3.3).

 

1.8      Yn unol â chais y Pwyllgor, atodir dadansoddiad manwl o ddyraniadau cyllideb ddrafft 2024-25 (fel y bo'n berthnasol i'r Gymraeg), alldro terfynol ar gyfer 2022-23, ynghyd â'r rhagolwg o'r alldro ar gyfer 2023-24, yn Atodiad A. Mae hyn yn cadarnhau mai'r alldro terfynol ar gyfer cyllidebau'r Gymraeg (Llinellau Gwariant yn y Gyllideb y Gymraeg, Cymraeg mewn Addysg a Chomisiynydd y Gymraeg) yn 2022-23 oedd £44.937m (£44.695m adnoddau a £0.242m cyfalaf) a'r rhagolwg o'r alldro (yng nghyfnod 7) ar gyfer 2023-24 yw £48.643m (£48.593m adnoddau a £0.05m cyfalaf).

 

1.9      Mae'n bwysig nodi mai'r nod yw prif ffrydio Cymraeg 2050 ym mhob un o feysydd portffolio Llywodraeth Cymru, ac mae gwariant ar yr iaith wedi'i ymgorffori eisoes yn y broses gyflawni mewn llawer o bortffolios gweinidogol eraill. Fodd bynnag, rhoddir manylion pellach isod ynghylch y Llinellau Gwariant penodol yn y Gyllideb ym Mhrif Grŵp Gwariant y Gymraeg ac Addysg sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni portffolio'r Gymraeg yn uniongyrchol.

 

 

Llinell Wariant yn y Gyllideb y Gymraeg

 

1.10   Diben Llinell Wariant yn y Gyllideb y Gymraeg yw cefnogi Cymraeg 2050 o ran cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg a sicrhau'r seilwaith cywir. Y gyllideb ddangosol ar gyfer Llinell Wariant yn y Gyllideb y Gymraeg yw £23.579m yn 2024-25. Mae'r gyllideb hon yn adlewyrchu'r penderfyniad i drosglwyddo £0.5m o Linell Wariant yn y Gyllideb y Siarter Iaith i Linell Wariant yn y Gyllideb Cymraeg 2050 (Grant Addysg i Awdurdodau Lleol) a throsglwyddo £1.675m i mewn o Linell Wariant yn y Gyllideb Cymraeg mewn Addysg mewn perthynas â chyllid a ddyrannwyd drwy'r Cytundeb Cydweithio ar gyfer y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

 

1.11   Yn 2022-23, dyrannwyd cyllid ychwanegol o £1.2m i'r Urdd i roi cymorth parhaus i ailadeiladu ei gwasanaethau o ganlyniad i bandemig COVID-19. Daeth y cyllid yn rhan o linell sylfaen cyllideb 2023-24 a'r bwriad yw dyrannu'r un swm ar gyfer 2024-25. Mae'n golygu y bydd cyfanswm y cyllid ar gyfer yr Urdd dros £2.2m y flwyddyn. Ceir rhagor o fanylion am y cyllid hwn o dan adran 3.1.

 

1.12   Dyrannwyd swm arall o £0.3m y flwyddyn i'r Eisteddfod Genedlaethol yn 2022-23 er mwyn helpu'r sefydliad i adfer ar ôl COVID-19. Daeth y cyllid hwn yn rhan o'r llinell sylfaen yn 2023-24 ac rydym yn cynnig yr un swm ar gyfer 2024-25 sy'n golygu y bydd grant yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynyddu i £1m y flwyddyn yn y dyfodol.

 

1.13   Fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio, a thrwy gyllidebau presennol, rydym yn buddsoddi £1m o gyllid refeniw erbyn 2024-25 yn Sir Gaerfyrddin a hen ardaloedd diwydiannol y Cymoedd Gorllewinol. Rydym yn gwneud hyn mewn ymateb i ganlyniadau Cyfrifiad 2021 mewn perthynas â'r Gymraeg. Bydd yn ein helpu i ddeall y canlyniadau yn well ac yn ein galluogi i dreialu ymyriadau mewn ymateb i'r canlyniadau hynny.

 

1.14   Mae'r gyllideb sy'n weddill wedi'i chynnal ar lefel 2024-25 er mwyn cefnogi gweithgareddau partneriaeth gan gynnwys:

 

·      Cymraeg i Blant – er mwyn helpu rhieni, darpar rieni ac aelodau eraill o'r teulu i ddefnyddio'r Gymraeg gartref, trosglwyddo'r iaith i'w plant a chefnogi datblygiad ieithyddol plant mewn cyd-destun cymdeithasol ac addysgol;

·      darparu hyfforddiant iaith Gymraeg drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol;

·      y Siarter Iaith sy'n cefnogi ac yn hyrwyddo defnydd anffurfiol o'r Gymraeg ymhlith pobl ifanc o oedran ysgol, gyda £0.5 o'r gyllideb hon yn cael ei drosglwyddo i'r Grant Addysg i Awdurdodau Lleol;

·      cyflawni Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg;

·      cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, drwy grantiau i nifer o bartneriaid allweddol, gan gynnwys: y rhwydwaith o fentrau iaith, y rhwydwaith o bapurau bro; Merched y Wawr; Cymdeithas Eisteddfodau Cymru; Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru; a Mudiad Clybiau Ffermwyr Ifanc;

·      y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg;

·      gwaith ymchwil, gwerthuso a marchnata mewn perthynas â'r strategaeth.

 

 

Llinell Wariant yn y Gyllideb Comisiynydd y Gymraeg

 

1.15   Mae'r gyllideb hon yn cefnogi Comisiynydd y Gymraeg. Ceir rhagor o fanylion ynghylch cyllideb y Comisiynydd yn adran 3.2.

 

 

Llinell Wariant yn y Gyllideb Cymraeg mewn Addysg

 

1.16   Y gyllideb ddangosol ar gyfer Llinell Wariant yn y Gyllideb Cymraeg mewn Addysg yw £16.9m yn 2024-25. Mae'r gyllideb hon yn adlewyrchu'r penderfyniad i ailflaenoriaethu cyllid o £3.5m o dan y Cytundeb Cydweithio i gronfeydd wrth gefn (gweler paragraff 1.3), trosglwyddo £1.675m i Linell Wariant yn y Gyllideb y Gymraeg ar gyfer yr elfen o gyllid sy'n gysylltiedig â'r Cytundeb Cydweithio ar gyfer y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a throsglwyddo £2.2m i Linell Wariant yn y Gyllideb Cymraeg 2050 (Grant Addysg i Awdurdodau Lleol) i ehangu'r ddarparu trochi yn y Gymraeg o ganlyniad i gyfuno grantiau.

1.17   Fel rhan o'n Cytundeb Cydweithio, bydd y cyllid sy'n weddill yn y Llinell Wariant yn y Gyllideb, sef £2.825m yn 2024-25, yn cefnogi'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

1.18   Mae Llinell Wariant yn y Gyllideb Cymraeg mewn Addysg hefyd yn cefnogi camau gweithredu sy'n ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg yn Cymraeg 2050, gan gynnwys:

 

·      cyllid ar gyfer Mudiad Meithrin i gynyddu darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg fel llwybr i addysg cyfrwng Cymraeg;

·      parhau â'r cyllid ar gyfer y rhaglen e-sgol, sef £0.6m y flwyddyn yn dilyn cynnydd mewn cyllid o 2022-23 ymlaen;

·      rhoi'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCAau) 10 mlynedd ar waith yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg 2019, a ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr 2020; 

·      comisiynu adnoddau addysgu a dysgu dwyieithog i gefnogi'r cwricwlwm a'i gymwysterau, gan gynnwys cyllido Adnodd, sef is-gwmni Llywodraeth Cymru a ddaeth yn weithredol ar 1 Ebrill 2023.

 

 

Llinell Wariant yn y Gyllideb Cymraeg 2050 (Grant Addysg i Awdurdodau Lleol)

 

1.19   Ceir cyllideb ddangosol o £9.77m ar gyfer y Llinell Wariant newydd hon yn y Gyllideb yn 2024-25 (cyfeiriwch at baragraffau 1.5-1.6). Drwy gyfuno'r grantiau bydd hyn yn rhoi golwg strategol a chyffredinol fwy cadarn i awdurdodau lleol o ran sut y gallant ymgorffori'r Gymraeg mewn polisïau addysg yn eu gwaith. Bydd hyn yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael yr ymreolaeth a'r adnoddau i gyflawni eu CSCAau, a dosbarthu'r cyllid a ddarperir i gefnogi eu cyd-destunau addysg ac ieithyddol lleol eu hunain.

1.20   Bydd swyddogion yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i lunio canllawiau penodol ar grantiau a gofynion ar gyfer y gwaith sy'n gysylltiedig â chyllid Cymraeg mewn Addysg. Bydd y dyraniadau cyllido ar gyfer pob awdurdod yn gyson â'r strwythurau sydd eisoes ar waith i gyflawni CSCAau awdurdodau lleol, llunio adroddiadau arnynt a'u monitro. Gall mwy o gysondeb rhwng y cyllid a ddarperir i awdurdodau lleol a'r CSCAau ond gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol.

 

 

2.         Gwybodaeth Arall

 

Gwybodaeth am y ffordd y caiff camau i weithredu portffolio y Gymraeg a chanlyniadau cysylltiedig eu monitro a'u gwerthuso i ddangos gwerth am arian.

 

2.1      O ran sicrhau gwerth am arian, mae eglurder ynghylch y ffordd rydym yn defnyddio ein hadnoddau yn effeithiol yn ganolog i gyflawni'r blaenoriaethau a nodir yn Cymraeg 2050:Miliwn o siaradwyr Cymraeg, y Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio. Mae gennym brosesau sefydledig ar waith i sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol at y dibenion a fwriadwyd.

 

2.2      Caiff cynnydd yn erbyn Rhaglen Waith Cymraeg 2050 ar gyfer 2021 i 2026ei fonitro'n flynyddol drwy broses sy'n cynnwys cyhoeddi Cynllun Gweithredu blynyddol ar ddechrau'r flwyddyn ariannol, ac yna Adroddiad Blynyddol ar ddiwedd y flwyddyn er mwyn adrodd yn ôl ar y camau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu. Cynhelir adolygiadau rheolaidd i fonitro gwariant a chanlyniadau er mwyn sicrhau bod unrhyw adnoddau sydd ar gael yn cael eu hailflaenoriaethu er mwyn cyflawni'r strategaeth.

 

2.3      Mae Cyngor Partneriaeth y Gymraeg yn chwarae rôl drwy roi cyngor ar y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at darged 2050 ac effeithlonrwydd ein rhaglenni a'n hymyriadau. Mae Bwrdd Rhaglen Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am asesu risgiau a nodi camau i'w lliniaru, ac mae'n prif ffrydio'r strategaeth ym mhob un o feysydd polisi'r Llywodraeth.

 

2.4      Rydym wedi cynnal Adolygiad o'r Cynllun Grant i Hyrwyddo a Hwyluso'r Defnydd o'r Gymraeg. Nod yr adolygiad oedd asesu sut mae'r Cynllun cyfredol wedi cael ei gynllunio a'i roi ar waith, a llywio'r ffordd y byddwn yn cynllunio model cyllido yn y dyfodol i gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg yn y dyfodol. Byddwn yn troi ein hymateb i argymhellion yr adolygiad yn gynllun grantiau newydd i gefnogi Cymraeg 2050.

 

2.5      Ym mis Tachwedd 2022, gwnaethom gyhoeddi Fframwaith Ymchwil a Gwerthuso ar gyfer Cymraeg 2050. Mae'n rhoi arweiniad ar gasglu tystiolaeth a data, asesu cynnydd, a gwerthuso effaith y strategaeth wrth iddi barhau i gael ei rhoi ar waith. Bydd y fframwaith hwn yn sail i raglen ymchwil a gwerthuso Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r strategaeth dros y blynyddoedd i ddod.

 

2.6      At hynny, gallai ein targed o gynyddu darpariaeth blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg drwy sicrhau bod 150 yn fwy o grwpiau meithrin wedi'u sefydlu erbyn 2028 leihau gwariant ar waith hyrwyddo ymhlith grwpiau oedran hŷn, gan eu bod yn helpu unigolion i sefydlu arferion iaith cadarn yn ifanc. Yn hyn o beth, mae Cylchoedd Meithrin yn cyfrannu at feithrin yr amodau sy'n creu siaradwyr Cymraeg newydd drwy drochi plant yn yr iaith a'i diwylliant, a thrwy helpu i fwydo ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae'r gwariant hwn ar y blynyddoedd cynnar yn paratoi'r ffordd ar gyfer ymyriadau pellach, er enghraifft y Siarter Iaith (sy'n annog plant ysgol i ddefnyddio'r Gymraeg yn anffurfiol o oedran cynnar).

 

2.7      Mae ein Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg yn cynnwys sicrhau bod elfennau digidol Cymraeg yn cael eu creu a'u cynnal er mwyn sicrhau y gallant gael eu defnyddio a'u hailddefnyddio gan bawb o dan drwydded ganiataol addas. Mae'n hanfodol bod technoleg Cymraeg yn cael ei lledaenu hefyd er mwyn normaleiddio'r iaith a galluogi pobl i'w defnyddio yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Lansiwyd y Cynllun ar 23/10/2018 ac rydym wrthi'n paratoi i ddatblygu'r cynllun nesaf.

 

2.8      Rydym yn ymrwymedig i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i wella'r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau am lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Ein nod yw sicrhau ein bod yn adlewyrchu'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac mae ein cynlluniau gwariant yn anelu at sicrhau cydbwysedd rhwng blaenoriaethau byrdymor a hirdymor.

 

Gwybodaeth am ddyraniadau (a'u lleoliad) yn eich portffolio i gefnogi strategaeth y Gymraeg Cymraeg 2050, yn enwedig dyraniadau i gyflawni'r ‘cerrig milltir’ a nodir yn Rhaglen Waith 2021-2026

 

2.9      Ers lansio Cymraeg 2050, rydym wedi bod yn gweithio tuag at gyflawni cyfres o gerrig milltir, gan gynnwys targedau o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050. Rydym yn dilyn trywydd a ddatblygwyd yn seiliedig ar Gyfrifiad 2011. Ar y cychwyn, gwnaethom ymrwymo i oedi unwaith inni gael canlyniadau Cyfrifiad 2021 er mwyn cloriannu ac adolygu ein cynlluniau gwaith a'r trywydd i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg fel y bo angen. Rydym bellach yn ystyried data'r Cyfrifiad ochr yn ochr â ffynonellau eraill o ddata, er enghraifft yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau ar y trywydd cywir o ran ein nod o ddyblu'r defnydd dyddiol o'n hiaith a chyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nodir isod ein cynnydd yn erbyn y cerrig milltir lefel uchel.

 

Carreg filltir: cynnal cyfraddau trosglwyddo'r iaith ymhlith teuluoedd gyda'r nod o weld cynnydd graddol ar hyd y ffordd hyd at 2050

2.10   Er mwyn cefnogi'r nod hwn, byddwn yn parhau i fuddsoddi yn rhaglen Cymraeg i Blant yn ystod 2024-25, gyda chyllid o £0.73m yn parhau. Amcanion y prosiect yw helpu rhieni, darpar rieni ac aelodau eraill o'r teulu i gyflwyno a defnyddio'r Gymraeg gartref a'i throsglwyddo i'w plant, a chefnogi datblygiad ieithyddol plant mewn cyd-destun cymdeithasol ac addysgol. Caiff hyn ei gyflawni drwy gyfres o sesiynau am ddim i rieni a'u plant, a rhwydwaith o swyddogion sy'n helpu teuluoedd i gyflwyno a defnyddio'r Gymraeg gartref a'i throsglwyddo i'w plant, ac yn cefnogi datblygiad ieithyddol, cymdeithasol ac addysgol plant. Mae sesiynau wyneb yn wyneb bellach yn rhedeg ochr yn ochr â'r sesiynau rhithwir a gyflwynwyd yn ystod y pandemig.

 

2.11   Mae Cymraeg i Blant yn cefnogi ein polisi cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoedd. Mae annog teuluoedd i ddewis Cymraeg yn rhan bwysig o Cymraeg 2050 ac mae'r polisi hwn yn amlinellu sut rydym yn bwriadu sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn cael y cymorth a'r anogaeth orau bosibl i ddewis defnyddio'r Gymraeg gyda'u plant. Mae ein polisi ynglŷn â throsglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoedd yn gweithio ar y cyd â Cymraeg i Blant.

 

Carreg filltir: Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg

2.12   Un targed pwysig arall yn Cymraeg 2050 yw grymuso siaradwyr i ddefnyddio eu Cymraeg gyda'r nod o ddyblu'r ganran ohonom sy'n defnyddio mwy nag ychydig o eiriau o Gymraeg bob dydd erbyn 2050. Gan gadw'r nod pwysig hwn mewn cof, mae pob un o'r ymyriadau ym mhortffolio Cymraeg 2050, ac felly'r holl ddyraniadau cyllidebol cyfatebol, yn anelu at gynyddu'r defnydd o'r iaith, a chânt eu gwerthuso a'u monitro er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben hwn. Mae hyn yn wir o ran Llinell Wariant yn y Gyllideb y Gymraeg a Llinell Wariant yn y Gyllideb Comisiynydd y Gymraeg. O dan y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg, a'r broses o reoleiddio'r safonau, mae gan y Comisiynydd rôl i sicrhau cynnydd yn y defnydd o'r iaith drwy weithio gyda chyrff i wella a chynyddu'r defnydd o'u gwasanaethau Cymraeg.

 

2.13   Mae cefnogi'r Gymraeg fel iaith sy'n ffynnu yn y gymuned yn ganolog i'r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg. Un o themâu allweddol y cynllun hwn yw grymuso cymunedau i ddod yn gyfrifol am gynaliadwyedd y Gymraeg yn yr hirdymor. Mae prosiect Perthyn yn helpu sefydliadau cymunedol i sefydlu neu ehangu mentrau cymdeithasol a thai cydweithredol a arweinir gan y gymuned. Mae i Perthyn, a gyflawnir gan Cwmpas, ddwy elfen – mae'r gyntaf yn darparu gwasanaeth cymorth a chyngor pwrpasol i grwpiau cymunedol ac mae'r ail yn rhoi grantiau bach i annog grymuso mewn cymunedau a meithrin gallu. Dyrannwyd cyfanswm o £0.465m ar gyfer Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn 2024-25. Ym mis Awst 2022, gwnaethom lansio'r Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Bydd y Comisiwn yn canolbwyntio ar ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol mewn cymunedau Cymraeg i ddechrau. Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddodd y Comisiwn bapur safbwynt yn amlinellu ei ganfyddiadau cychwynnol a bydd yr adroddiad terfynol yn dilyn yn ystod haf 2024.

 

2.14   Mae'r Siarter Iaith yn cefnogi ac yn hyrwyddo defnydd anffurfiol o'r Gymraeg ymhlith pobl ifanc o oedran ysgol. Rydym wedi parhau â'r cyllid o £0.713m ar gyfer y rhaglen yn 2024-25. O'r dyraniad hwn, mae'r swm o £0.5m yn cael ei drosglwyddo i Linell Wariant newydd yn y Gyllideb Cymraeg 2050 (Grant Addysg i Awdurdodau Lleol) er mwyn i awdurdodau lleol weithio gydag ysgolion i gyflwyno'r rhaglen a chaiff £0.138m ei ddyrannu i'r Urdd er mwyn cyflwyno elfennau eraill o'r rhaglen. Mae'r gweddill yn cyllido gweithgareddau cenedlaethol megis cyhoeddi llyfrau Seren a Sbarc, adnoddau eraill a chyllid i gefnogi Bardd Plant Cymru.

 

Carreg filltir: Ceisio cefnogi'r gwaith o ehangu sector Cymraeg y blynyddoedd cynnar drwy greu 60 grŵp newydd erbyn 2026

2.15   Byddwn yn parhau â'r cyllid o £3.031m i'r Mudiad Meithrin i helpu ei aelodaeth o Gylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi i gryfhau ac ehangu ei wasanaethau. Mae'r gwaith o ddatblygu staff a gwirfoddolwyr yn lleoliadau ei aelodau wedi parhau, gyda'r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael drwy ei ‘Academi’ yn ehangu a'r niferoedd sy'n cymryd rhan yn cynyddu. Bydd cyllid hefyd yn parhau i alluogi'r Mudiad Meithrin i gynnal rhaglen Sefydlu a Symud sy'n canolbwyntio'n gyfan gwbl ar sefydlu darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg newydd mewn ardaloedd o Gymru lle ceir diffyg gwasanaethau o'r fath ar hyn o bryd fel pwynt mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.

 

2.16   Drwy'r gwaith hwn, sefydlwyd 43 o grwpiau newydd yn ystod tair blynedd gyntaf y rhaglen hyd at 2021. Mae'r targed o sefydlu 60 o grwpiau eraill yn ystod tymor presennol y Senedd yn parhau, a darparwyd cyllid ychwanegol yn ystod 2022-23 a 2023-24 i alluogi Mudiad Meithrin i ragori ar ei dargedau blynyddol. Bydd y gyllideb hon yn parhau yn 2024-25 a bydd Mudiad Meithrin yn parhau i adeiladu ar allu'r blynyddoedd cynnar i gynnig llwybr tuag at addysg cyfrwng Cymraeg.

 

2.17   Ochr yn ochr â'r rhaglen o ehangu darpariaeth mae'r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio i fynd ati’n raddol i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg. Disgwylir y bydd y rhaglen Sefydlu a Symud ac ehangu Dechrau'n Deg (a ariennir drwy Brif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol) yn gweithio'n agos gyda'i gilydd ac yn cyfrannu at dargedau ei gilydd.

 

Carreg filltir: Cynyddu canran y dysgwyr blwyddyn 1 a addysgir yn Gymraeg o 23% (2020 i 2021) i 26% yn 2026.

2.18   Un o nodau allweddol Cymraeg 2050 yw cynyddu nifer y dysgwyr sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r data CYBLD mwyaf diweddar (2023), a gyhoeddwyd ym mis Medi, yn dangos gostyngiad canrannol bach yn nifer y dysgwyr Blwyddyn 1 sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, o 23.9% yn 2022 i 23.4% yn 2023. Yn Rhaglen Waith Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-26, rydym wedi ymrwymo i gynyddu canran y dysgwyr Blwyddyn 1 a addysgir yn Gymraeg i 26% erbyn 2026. Mae gwaith yn y maes polisi hwn yn cynnwys nifer o ffrydiau gwahanol.

 

2.19   Byddwn yn parhau i ddyrannu £0.1m o Linell Wariant yn y Gyllideb Cymraeg mewn Addysg i gefnogi gwaith canolog ar y CSCAau. Gwnaeth pob awdurdod lleol yng Nghymru roi ei CSCA 10 mlynedd ar waith ym mis Medi 2022 a chyflwyno ei adroddiad ar yr adolygiad blynyddol o'i CSCA ym mis Gorffennaf 2023, yn amlinellu'r cynnydd a wnaed yn erbyn ei dargedau yn ystod blwyddyn gyntaf ei Gynllun. Mae'r adroddiadau ar yr adolygiadau blynyddol o'r CSCAau wedi cael eu hasesu ac mae adborth wedi cael ei roi i bob awdurdod. Er bod y cynnydd yn nifer a chanran y dysgwyr yn amrywio ledled Cymru, mae adroddiadau'r adolygiadau blynyddol cyntaf yn dangos inni fod camau pendant wedi cael eu cymryd gan y mwyafrif o'r awdurdodau lleol i osod sylfeini cadarn i wneud cynnydd dros oes y CSCAau.

 

2.20   Yn 2024-25, byddwn yn canolbwyntio ar barhau i helpu awdurdodau lleol i roi eu CSCAau 10 mlynedd ar waith. Bydd hyn yn cynnwys:

 

 

2.21   Bydd awdurdodau lleol yn parhau i ddefnyddio cyllid o amrywiaeth o ffynonellau eraill i roi eu CSCAau ar waith, er enghraifft drwy raglen gyllid Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, grant cyfalaf y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant a'r Grant Cynnal Refeniw. Bydd cyllid penodol ar gyfer y Gymraeg megis y grant cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg a'r Grant Trochi Hwyr yn parhau i gefnogi a chyflwyno gweithgareddau sy'n cefnogi'n uniongyrchol y gwaith o roi CSCAau ar waith.

 

2.22   Mae trochi hwyr yn parhau i chwarae rhan bwysig yn y gwaith a wnawn i gynyddu canran y dysgwyr sy'n mynychu addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Rhaglen Waith Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-26 a'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ein hymrwymiad i estyn y Rhaglen Trochi Hwyr er mwyn sicrhau bod pob newydd-ddyfodiad i'r iaith yn gallu cael addysg cyfrwng Cymraeg pryd mae ei hangen arnynt a ble bynnag y maent ar eu taith ddysgu. Ceir rhagor o fanylion am y cyllid hwn o dan adran 3.1.

 

2.23   Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno Bil Addysg Gymraeg yn ystod tymor hwn y Senedd. Diben y Bil yw cryfhau a chynyddu ein darpariaeth addysg Gymraeg er mwyn ateb yr heriau a nodwyd yn Cymraeg 2050. Mae Llinell Wariant newydd yn y Gyllideb Cymraeg 2050 (Grant Addysg i Awdurdodau Lleol) yn dwyn ynghyd gyllid awdurdodau lleol ar gyfer y Gymraeg, gan gefnogi'r broses o gyflwyno'r Bil arfaethedig.

 

Carreg filltir: cefnogi cynnydd yn nifer yr athrawon yng Nghymru sy'n gallu addysgu Cymraeg neu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg erbyn 2031.

2.24   Mae cyllid ar gael yn Llinell Wariant yn y Gyllideb Datblygu a Chefnogi Athrawon i helpu i roi ein Cynllun Gweithlu Cymraeg mewn Addysg ar waith. Mae cyfanswm o £8.15m ar gyfer yn 2024-25 ac mae swm pellach o £2.57m wedi cael ei drosglwyddo i Linell Wariant newydd yn y Gyllideb Cymraeg 2050 (Grant Addysg i Awdurdodau Lleol).

2.25   Caiff tua £4.3m ei flaenoriaethu i helpu i gyflawni nodau'r cynllun a chaiff ei dargedu'n bennaf at gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg. Caiff y cyllid ei flaenoriaethu ar gyfer y gweithgareddau canlynol:

 

·         parhad y rhaglen pontio cynradd i uwchradd;

·         parhad y grantiau i ysgolion ddatblygu atebion arloesol i fynd i'r afael â phrinder athrawon;

·         cyllid i gefnogi hyfywedd darpariaeth Safon Uwch Cymraeg mewn ysgolion a cholegau AB;

·         ail flwyddyn bwrsari cadw athrawon;

·         cyllid i CYDAG i gefnogi cydweithrediad rhwng ysgolion cyfrwng Cymraeg mewn nifer o feysydd polisi.

 

2.26   Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn parhau i ddyrannu £0.150m o'i grant, a ariennir o Linell Wariant yn y Gyllideb Cymraeg mewn Addysg, yn 2024-25 i ddatblygu dau brosiect penodol, sef:

·         treialu ysgoloriaeth ariannol a darpariaeth fentora i ddysgwyr israddedig er mwyn eu helpu i baratoi ar gyfer AGA drwy gyfrwng y Gymraeg;

·         datblygu rhwydweithiau er mwyn ymgysylltu â graddedigion sy'n siarad Cymraeg sy'n astudio yn Lloegr a hyrwyddo cyfleoedd iddynt ddychwelyd i Gymru er mwyn paratoi i addysgu.

 

2.27   Rydym yn parhau i gymell athrawon dan hyfforddiant o Gymru sy'n gwneud AGA ac rydym wedi cynnal cymhelliant Iaith Athrawon Yfory o £5,000 ar gyfer pob myfyriwr sy'n paratoi i addysgu pynciau uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Ariennir hyn o linellau cyllidebol AGA yn Llinell Wariant yn y Gyllideb Datblygu a Chefnogi Athrawon

 

2.28   Mae dysgu proffesiynol yn nodwedd allweddol ar ein dull o atgyfnerthu gallu addysgu cyfrwng Cymraeg a helpu ymarferwyr i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg yn unol â'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth. Rydym yn gweithio gyda chonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau y caiff ymarferwyr eu nodi a'u cefnogi i fanteisio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol er mwyn gwella'r ffordd y caiff Cymraeg ei haddysgu mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a helpu pob ysgol i symud ar hyd y continwwm.

 

2.29   Caiff tua £3.8m ei ddyrannu yn Llinell Wariant yn y Gyllideb Datblygu a Chefnogi Athrawon yn 2024-25 i'r Cynllun Sabothol er mwyn cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol i ymarferwyr ym maes methodoleg ddwys addysgu'r Gymraeg ac ieithoedd. Mae cyrsiau ar gael ar sawl lefel i gynorthwywyr addysgu ac athrawon. Mae'r rhan fwyaf o'r gyllideb hon yn ariannu'r costau cyflenwi sy'n gysylltiedig â rhyddhau ymarferwyr o ysgolion er mwyn iddynt ddilyn y cyrsiau. Mae hyn wedi cynyddu ar gyfer 2024-25 i gyfrif am gost uwch talu am drefniadau cyflenwi er mwyn galluogi ymarferwyr i fynd ar y cyrsiau.

 

2.30   Bydd cyllid sydd wedi'i ddyrannu i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd yn galluogi pob ymarferydd addysg i gael gwersi Cymraeg am ddim. Lansiwyd gwefan ym mis Gorffennaf 2022 er mwyn rhoi gwybodaeth i ymarferwyr am y ddarpariaeth sydd ar gael iddynt drwy'r Cynllun Sabothol a Gweithlu Addysg | Dysgu Cymraeg y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yn ystod 2024-25, bydd y Ganolfan yn datblygu darpariaeth bwrpasol newydd i ddiwallu anghenion y sector. Er enghraifft, caiff cwrs peilot ar gyfer athrawon uwchradd mewn ysgolion cyfrwng Saesneg sy'n medru rhywfaint o Gymraeg ei ddatblygu i'w gyflwyno mewn ffordd hyblyg a chwrs magu hyder / ‘gloywi’ ar-lein byr i'r rhai sy'n addysgu mewn nifer o leoliadau. Caiff swm o £0.5m ei ddyrannu o Linell Wariant yn y Gyllideb Datblygu a Chefnogi Athrawon yn 2024-25 i gefnogi'r gwaith hwn.

 

2.31   Yn ychwanegol at y Cynllun Sabothol a'r ddarpariaeth drwy'r Ganolfan Genedlaethol, caiff cyfanswm o £2.57m ei ddyrannu i awdurdodau lleol fel rhan o elfen gyfunedig Cymraeg 2050 o'r Grant Addysg i Awdurdodau Lleol yn 2024-25 er mwyn cefnogi darpariaeth addysgu'r Gymraeg ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Defnyddir y cyllid ar y cyd i helpu i ddatblygu adnoddau a darpariaeth dysgu proffesiynol genedlaethol, er enghraifft i helpu ymarferwyr sydd wedi cwblhau cyrsiau'r cynllun sabothol i ddefnyddio eu sgiliau newydd yn ôl yn yr ysgol; er mwyn helpu cynorthwywyr addysgu i fodelu patrymau iaith â dysgwyr a helpu penaethiaid i gynllunio'n strategol i ddatblygu'r Gymraeg yn eu hysgolion.

 

2.32   Hefyd, dyrennir £4.5m i awdurdodau lleol fel rhan o'r Grant Cymraeg mewn Addysg, a ailsefydlwyd yn 2023-24 ar ôl trafodaethau â'r awdurdodau lleol. Gyda 30% o arian cyfatebol gan awdurdodau lleol, cyfanswm gwerth y Grant Cymraeg mewn Addysg yw £5.85m. Mae'r Grant Cymraeg mewn Addysg yn cefnogi'r broses o roi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol ar waith mewn tri maes allweddol:

 

·         cymorth i ganolfannau hwyrddyfodiaid a throchi hwyr;

·         cymorth ar gyfer cynnydd ieithyddol ac i ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog;

·         cymorth i ddatblygu Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

 

2.33   Bydd y Grant Cymraeg mewn Addysg yn 2024-25 yn parhau a bydd hefyd yn cael ei ddyrannu fel rhan o elfen gyfunedig Cymraeg 2050 o'r Grant Addysg i Awdurdodau Lleol.

 

 

3.         Meysydd Penodol

 

3.1      Diweddariadau ar ddyraniadau yng nghyllideb 2023-24

 

Gwybodaeth am ddyrannu £3 miliwn yn 2023-4 a £1.5 miliwn yn 2022-23 i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector prentisiaethau ac addysg bellach, a darparu gwersi Cymraeg am ddim i ddysgwyr 16 i 25 oed a staff addysgu.

 

3.1.1    Mae'r Rhaglen Lywodraethu a'n Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru yn cynnwys ymrwymiad i fuddsoddi yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn darparu gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16-25 oed a staff addysgu. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn adeiladu ar y gyllideb graidd bresennol i'r Coleg sy'n cefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog mewn prifysgolion, colegau AB a darparwyr hyfforddiant drwy roi cyllid grant ynghyd â hyfforddiant a mentora i feithrin y gallu i addysgu.

 

Roedd cyllideb 2022-23 yn cynnwys swm ychwanegol o £1.5m a ddyrannwyd i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel a ganlyn:

 

·         Addysg ôl-16: £1,136,840

·         Addysg Uwch: £213,160

·         Addysg Gychwynnol i Athrawon: £150,000

 

3.1.2    Ariannodd y dyraniad ychwanegol raglen o grantiau datblygu i golegau a darparwyr prentisiaethau i ddatblygu gallu a darpariaeth mewn sectorau â blaenoriaeth, gan gynnwys gofal plant, iechyd a gofal cymdeithasol, chwaraeon a hamdden, ac amaethyddiaeth. Hefyd, roedd y cyllid yn cefnogi dau brosiect penodol i ddatblygu hyder myfyrwyr sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i ddenu myfyrwyr yn ôl i Gymru i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

3.1.3    Roedd y gyllideb ar gyfer 2023-24 yn cynnwys £3m pellach i'r Coleg a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. O'r £4.5m ychwanegol a ddyrannwyd ar gyfer 2023-24, dyrannwyd £2.825m i'r Coleg ac £1.675 i'r Ganolfan Genedlaethol.

 

3.1.4    Ar gyfer 2023-24, mae'r Coleg yn defnyddio ei gyllid i barhau i gryfhau a chefnogi darpariaeth yn y sectorau hamdden a chwaraeon, iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant ac amaethyddiaeth; yn ogystal ag ymestyn darpariaeth yn y sector busnes a sector y celfyddydau creadigol. Yn y sector prentisiaethau, mae'r Coleg yn parhau i feithrin gallu yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a'r sector gofal plant, gan alluogi mwy o ddysgwyr i siarad Cymraeg a bod yn siaradwyr dwyieithog hyderus yn y gweithle. Mae'r cyllid hefyd yn cefnogi parhad dau brosiect Addysg Gychwynnol i Athrawon.

 

3.1.5    Mae'r swm o £1.675m i'r Ganolfan Genedlaethol yn 2023-24 yn cael ei ddefnyddio i ymestyn darpariaeth ar gyfer dysgwyr 16-25 oed a'r gweithlu addysg er mwyn cynnig mynediad am ddim i gyrsiau Cymraeg. Fel rhan o'r cynnig, bydd dysgwyr cymwys 18 oed a hŷn hefyd yn gallu dilyn y cyrsiau Dysgu Cymraeg prif ffrwd yn y gymuned. Hyd yma yn 2023/24, mae dros 1,300 o ddysgwyr 16-25 oed yn manteisio ar y cynnig.

 

3.1.6    Dechreuodd y Ganolfan Genedlaethol gynnig cyrsiau am ddim i athrawon a gweithwyr eraill yn y sector addysg ym mis Medi 2022 ac mae'r cyllid ychwanegol wedi galluogi'r Ganolfan i ymestyn y ddarpariaeth hon yn 2023-24. Mae data dros dro y Ganolfan Genedlaethol yn dangos bod 1,200 o unigolion wedi manteisio ar y ddarpariaeth yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/23, ac mae mwy na 1,000 wedi cofrestru hyd yma yn ystod 2023/24.

 

3.1.7    Bydd y cyllid o dan y Cytundeb Cydweithio yn parhau ar £4.5m ar gyfer 2024-25. Mae'r gyllideb ar gyfer 2024-25 wedi ei rhannu dros dro yn £2.825m i'r Coleg a £1.675m i'r Ganolfan Genedlaethol o hyd. Drwy ailflaenoriaethu £3.5m o gyllid yn y ffordd hon ar gyfer 2024-25 bydd hyn yn ein galluogi i ddiogelu gwasanaethau craidd sy'n cefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer Cymraeg 2050. Yn benodol, byddwn yn gallu parhau â'r cyllid sy'n gysylltiedig â'r Bil Addysg Gymraeg, Mudiad Meithrin a'r gyllideb Cymraeg mewn Addysg i gefnogi darpariaeth Gymraeg.

 

3.1.8    Fodd bynnag, gall ailflaenoriaethu cyllid olygu y bydd yn rhaid i'r Coleg dynnu'n ôl o rai ymrwymiadau a wnaed i golegau AB a darparwyr prentisiaethau. Gall hefyd arwain at leihad yn y niferoedd sy'n dysgu Cymraeg. Byddwn yn gweithio gyda'r Coleg a'r Ganolfan Genedlaethol i ystyried opsiynau i liniaru effaith hyn ac i gefnogi camau gweithredu i gynnal darpariaeth cyfrwng Gymraeg mewn sectorau â blaenoriaethyn ogystal â darparu cyrsiau am ddim i ddysgwyr 16-25 oed a'r gweithlu addysg.

 

Diweddariad ar y ffordd y dosbarthwyd £2.2m sy'n cael ei ddyrannu (y flwyddyn) i ehangu darpariaeth trochi yn y Gymraeg ledled Cymru a sut mae'r cyllid hwn wedi cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

 

3.1.9    Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys ymrwymiad i ehangu'r Rhaglen Drochi i Ddisgyblion. Ers buddsoddi £2.2m yn 2021-22 i helpu dysgwyr Cymraeg i ymgymryd â throchi hwyr cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion, mae wyth awdurdod lleol wedi creu darpariaeth trochi hwyr cyfrwng Cymraeg newydd (Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Torfaen, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Powys) ac mae awdurdodau lleol eraill wedi ehangu eu rhaglenni trochi hwyr presennol i ateb y galw cynyddol.

 

3.1.10 Mae parhad y cyllid o £2.2m yn 2023-24 wedi sicrhau bod awdurdodau lleol yn parhau i ddatblygu eu darpariaeth trochi hwyr yn eu hardal. Mae hyn wedi eu galluogi i wneud y canlynol:

 

·         parhau â'u darpariaeth bresennol a'i datblygu;

·         agor eu canolfannau trochi hwyr cyntaf – Blaenau Gwent, Torfaen, Caerffili a Chastell-nedd Port Talbot;

·         cyflwyno darpariaeth megis cynlluniau peilot ar gyfer darpariaeth drochi ‘sydyn’; caffael hyfforddiant arbenigol mewn methodolegau ac adnoddau trochi; prosiectau cwmpasu i bennu darpariaeth i hwyrddyfodiaid yn seiliedig ar fodelau ALl eraill ac adnoddau trochi hwyr cyfrwng Cymraeg;

·         datblygu technolegau digidol arloesol i gefnogi dysgu, megis Aberwla, sef prosiectau adnoddau digidol rhithwir Gwynedd, sy'n cynnwys pentref rhithwir sy'n cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddefnyddio eu sgiliau iaith mewn cyd-destunau gwahanol. Bydd y cyllid yn helpu i'w cyflwyno ledled Cymru dros y blynyddoedd i ddod.

 

3.1.11 Bydd y cyllid ar gyfer 2024-25, a fydd yn trosglwyddo fel rhan o'r grant cyfunedig i elfen Cymraeg 2050 o'r Grant Addysg i Awdurdodau Lleol, yn galluogi awdurdodau lleol i barhau â'r prosiectau, gan sicrhau bod mwy na 60 o athrawon / cynorthwywyr ystafell ddosbarth trochi hwyr arbenigol yn eu swyddi. Bydd hefyd yn parhau i gefnogi'r broses o gyflwyno prosiect rhithwir Gwynedd, Aberwla, ledled Cymru dros y blynyddoedd i ddod.

 

Manylion am niferoedd sy'n manteisio ar gymhelliant Iaith Athrawon Yfory, ac unrhyw wybodaeth am werthuso ei effaith y gellid ei rhannu.

 

3.1.12 Mae'r tabl isod yn dangos nifer y myfyrwyr Addysg Gychwynnol i Athrawon sydd wedi cael cymhelliant Iaith Athrawon Yfory rhwng 2018-19 a 2022/23 (ar 13 Tachwedd 2023).

 

 

Blwyddyn Academaidd:

2018/19

2019/20

2020/21

2021/22

2022/23

Hawliadau SAC

60

95

130

105

75*

Hawliadau Sefydlu

45

80*

105*

65*

dd/g

Terfyn Amser SAC

31/08/2020

31/08/2021

31/08/2022

31/08/2023

31/08/2024

Terfyn Amser Sefydlu

31/08/2023

31/08/2024

31/08/2025

31/08/2026

31/08/2027

 

 

 

 

 

 

Cyfanswm yr Hawlwyr

60

95

130

105

73* i'w gadarnhau

*Mae'n bosibl y bydd y nifer hwn yn cynyddu am nad yw'r terfyn amser wedi mynd heibio eto. Mae'r niferoedd wedi’u talgrynnu i’r 5 agosaf.

 

3.1.13 Dim ond y rhai sy'n hawlio'r taliad cyntaf (SAC) sy'n gymwys i gael yr ail daliad. Oherwydd yr adeg o'r flwyddyn, nid oes unrhyw hawliadau na thaliadau wedi cael eu gwneud hyd yma yn erbyn Cynllun 2023-24. Mae hawlwyr a oedd wedi dilyn AGA rhwng 2018/19 i 2022/23 yn hawlio'r cymhelliant hwn yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ac fel y cyfryw mae'n bosibl na fydd y tabl isod yn dangos lefelau gwirioneddol recriwtio athrawon dan hyfforddiant Uwchradd AGA Cymru.

 

3.1.14 Ceir data ynglŷn â recriwtio AGA, gan gynnwys recriwtio cyfrwng Cymraeg ar gyfer cyfnodau a phynciau, ers y flwyddyn academaidd 2016/17 yn y bwletin ystadegol AGA blynyddol. Caiff data ar y flwyddyn academaidd 2022/23 eu cyhoeddi ym mis Mai 2024. Gwnaethom ddiweddaru'r asesiad o'r effaith ar gyfer y cynllun cymhelliant yn ddiweddar.

 

Diweddariad ar ddyraniadau cyllidebol o rannau eraill o bortffolio'r Gweinidog, megis Llinell Wariant yn y Gyllideb Datblygu a Chefnogi Athrawon mewn perthynas â'r ffordd y caiff ei defnyddio i helpu i ddatblygu'r Gymraeg yn y sector addysg.

 

3.1.15 Mae cyllid ar gael yn Llinell Wariant yn y Gyllideb Datblygu a Chefnogi Athrawon i helpu i roi ein Cynllun Gweithlu Cymraeg mewn Addysg ar waith (gweler paragraffau 2.24-2.29).

 

3.1.16Parheir i wneud darpariaeth ddigonol fel rhan o Linell Wariant yn y Gyllideb y Cwricwlwm ac Asesu i barhau i ddatblygu adnoddau dwyieithog a deunyddiau ategol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru wrth i anghenion gael eu nodi drwy ymgysylltu ag ymarferwyr (a chyn bod Adnodd yn mabwysiadu ei swyddogaethau comisiynu a sicrhau ansawdd). Ochr yn ochr â hyn, mae ymarferwyr yn parhau i gefnogi'r adolygiad o holl adnoddau'r cwricwlwm ar lwyfan Hwb, sydd bellach yn poblogi adran benodol ar adnoddau'r Cwricwlwm i Gymru. Wrth i'r adolygiad fynd rhagddo, mae mwy a mwy o adnoddau dwyieithog yn ymddangos yn yr adran hon er mwyn sicrhau bod ysgolion a lleoliadau yn gallu cael sicrwydd ynglŷn â'u hansawdd a'u cysondeb â'r Cwricwlwm i Gymru.

 

3.2      Comisiynydd y Gymraeg

 

Dyraniadau a sylwebaeth mewn perthynas â'r gyllideb a ddyrannwyd i Gomisiynydd y Gymraeg yn 2024-25.

 

3.2.1    Fel yr amlinellir ym mharagraf 3, mae penderfyniad trawslywodraethol wedi arwain at ail-lunio'r dyraniadau o wariant dangosol i roi cyllid ychwanegol i'r gwasanaethau sydd bwysicaf i bobl a chymunedau ledled Cymru a'u diogelu, sef y GIG a setliad llywodraeth leol craidd, sy'n ariannu ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol a gwasanaethau pob dydd eraill. Mae mwy o wariant mewn rhai meysydd yn golygu bod llai i'w wario mewn meysydd eraill. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad o 5% yng nghyllidebau pob un o'r pedwar Comisiynydd statudol yng Nghymru, gan gynnwys Comisiynydd y Gymraeg. O ganlyniad, dyraniad refeniw Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2024-25 fydd £3.189m, sef gostyngiad o £0.168m. Nid oes unrhyw newidiadau yng nghyllideb anariannol y Comisiynydd, sef £0.121m a £0.050m cyfalaf ar gyfer 2024-25.

3.2.2    Byddwn yn gweithio gyda'r Comisiynydd i reoli'r effaith sy'n gysylltiedig â'r gostyngiad hwn. Yn yr amcangyfrif o'r gyllideb ar gyfer 2024-25, tynnodd swyddfa'r Comisiynydd sylw at y pwysau a oedd yn gysylltiedig ag ariannu cytundebau cyflog blynyddol i'r staff a gofynnodd am swm ychwanegol o £0.147m o refeniw i ariannu cytundeb cyflog amcanestynedig o 5% yn 2024-25. Mae tua £0.032m i'w briodoli i gynnydd yng nghyfraniadau'r cyflogwr i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Cadarnhaodd Datganiad Hydref Llywodraeth y DU ar 22 Tachwedd y byddai cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i dalu am gostau amcangyfrifedig cynlluniau pensiwn yn ystod Gwanwyn 2024. Rydym yn disgwyl y bydd Cymru yn cael "cyfran Barnett" ganlyniadol o unrhyw gyllid ychwanegol a ddyrennir i Adrannau Llywodraeth y DU a chaiff gwybodaeth bellach ei darparu fel rhan o Gyllideb Atodol Gyntaf 2024-25.

 

3.3      Gwariant cyfalaf mewn perthynas â'r Gymraeg

 

Cynnydd manwl ynglŷn ag ehangu nifer y lleoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dosbarthiad y Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg a chynnydd hyd yma mewn awdurdodau lleol yng Nghymru.

 

3.3.1    Mae cyllideb cyfalaf cyfrwng Cymraeg yn cael ei hariannu o Linell Wariant yn y Gyllideb Seilwaith Addysg ym Mhrif Grŵp Gwariant y Gymraeg ac Addysg. Ei nod yw cynyddu lleoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd, cefnogi darpariaeth trochi hwyr yn ogystal â helpu dysgwyr o bob oedran i wella eu sgiliau Cymraeg a'u hyder yn Gymraeg.

 

3.3.2    I ddechrau, cymeradwywyd £46m o fuddsoddiad cyfalaf yn ystod cylch cyntaf cyllid cyfalaf cyfrwng Cymraeg yn 2018. Fodd bynnag, cymeradwywyd prosiectau ychwanegol ar ôl y cyhoeddiad gwreiddiol a gynyddodd y buddsoddiad cymeradwy ar gyfer y cylch cyntaf o £46m i £74m.

 

3.3.3        Cyhoeddwyd ail gyfran o gyllid gwerth £30m i gyd ym mis Mawrth 2021 i gefnogi prosiectau cyfalaf sy'n ymwneud yn benodol â chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn addysg yn ôl anghenion CSCAau lleol. Roedd hyn yn ychwanegol at y dyraniad presennol a gyhoeddwyd ar gyfer Band B o'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

 

3.3.4    O'r 51 o gynigion a gyflwynwyd, cymeradwywyd cyfanswm o 11 o gynigion mewn naw ardal awdurdod lleol. Cafodd y cynigion eraill a oedd yn bodloni'r meini prawf, ond na ellid eu cefnogi oherwydd y cyllid a oedd ar gael, eu gosod ar restr wrth gefn.

 

3.3.5    Yn ystod mis Hydref 2022, cymeradwywyd prosiectau cyfalaf cyfrwng Cymraeg ychwanegol. Roedd y prosiectau hyn a restrir yn Atodiad B ar y rhestr wrth gefn o ail gam y cyllid grant cyfalaf cyfrwng Cymraeg. Yn sgil adolygiad pellach o'r rhestr wrth gefn ar gyfer grantiau cyfalaf cyfrwng Cymraeg, ym mis Gorffennaf 2023, cymeradwywyd prosiectau ychwanegol mewn egwyddor, yn amodol ar gymeradwyo achos busnes. Mae'r saith prosiect hyn a restrir yn Atodiad C yn werth cyfanswm o £14.540m.

 

3.3.6    Bydd y prosiectau hyn yn gwneud cyfraniad sylweddol i addysg cyfrwng Cymraeg ledled Cymru. Ar lefel leol, byddant yn rhoi hwb cadarnhaol i'r iaith mewn nifer o siroedd. Cyfanswm y buddsoddiad ers 2018 yw bron £129m.

 

 

Crynodeb

 

Caiff y gyllideb sy'n berthnasol i'r Gymraeg ym Mhrif Grŵp Gwariant y Gymraeg ac Addysg Cyllideb Ddrafft 2024-25 ei chyflwyno i'r Pwyllgor i'w hystyried.

 

Jeremy Miles AS

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

 


ATODIAD A – CYLLIDEBAU'R GYMRAEG YM MHRIF GRŴP GWARIANT Y GYMRAEG AC ADDYSG CYLLIDEB DDRAFFT 2024-25, RHAGOLYGON 2023-24 AC ALLDRO TERFYNOL 2022-23

 

Cyllidebau adnoddau

 

Cam Gweithredu

Disgrifiad o'r Llinell Wariant yn y Gyllideb

2022-23
Alldro Terfynol

2023-24
Cyllideb Derfynol
(Chwef 2023)

2023-24
Cyllideb Atodol Gyntaf
(Mehefin 2023)

2023-24
Rhagolwg o'r Alldro
(Cyfnod 7)

2024-25
Dangosol
(Cyllideb Derfynol 2023-24 – Chwefror 2023)

2024-25
Cyllid a Ailflaenoriaethwyd

2024-25
Cyfuno Grantiau

2024-25
Newidiadau Eraill

2024-25
Cyllideb Ddrafft
(Rhagfyr 2023)

£000oedd

Cymorth Addysg Cyn-16 drwy ALlau

Cymraeg 2050 (Grant Addysg i Awdurdodau Lleol)

0

0

0

0

0

0

9,770

0

9,770

Cyfanswm Cymorth Addysg Cyn 16 drwy Allau

0

0

0

0

0

0

9,770

0

9,770

Cymraeg mewn Addysg

Cymraeg mewn Addysg

17,713

20,775

19,030

18,830

24,275

-3,500

-2,200

-1,675

16,900

Cyfanswm Cymraeg mewn Addysg

17,713

20,775

19,030

18,830

24,275

-3,500

-2,200

-1,675

16,900

Y Gymraeg

Y Gymraeg

23,716

22,404

24,149

26,236

22,404

0

-500

1,675

23,579

Comisiynydd y Gymraeg

3,101

3,357

3,282

3,282

3,357

-168

0

0

3,189

Comisiynydd y Gymraeg - Heb Fod yn Arian Parod

165

169

245

245

121

0

0

0

121

Cyfanswm y Gymraeg

26,982

25,930

27,676

29,763

25,882

-168

-500

1,675

26,889

Y Gymraeg – CYFANSWM Y GYLLIDEB ADNODDAU

44,695

46,705

46,706

48,593

50,157

-3,668

7,070

0

53,559

 

Cyllidebau cyfalaf

 

Cam Gweithredu

Disgrifiad o'r Llinell Wariant yn y Gyllideb

2022-23
Alldro Terfynol

2023-24
Cyllideb Derfynol
(Chwef 2023)

2023-24
Cyllideb Atodol Gyntaf
(Mehefin 2023)

2023-24
Rhagolwg o'r Alldro
(Cyfnod 7)

2024-25
Dangosol
(Cyllideb Derfynol 2023-24 – Chwefror 2023)

2024-25
Newidiadau

2024-25
Cyllideb Ddrafft
(Rhagfyr 2023)

£000oedd

Y Gymraeg

Comisiynydd y Gymraeg

242

50

50

50

50

0

50

Cyfanswm y Gymraeg

242

50

50

50

50

0

50

Y Gymraeg – CYFANSWM Y GYLLIDEB GYFALAF

242

50

50

50

50

0

50

 


 

ATODIAD B – DYRANIADAU GRANT CYFALAF CYFRWNG CYMRAEG – CYMERADWYWYD HYDREF 2022

 

 

 

 Awdurdod Lleol

Prosiect

Cyfalaf

Statws

1. Casnewydd

Neuadd Chwaraeon ar gyfer Ysgol Gyfun Gwent Is Coed

£3,334,919

Datblygu'r cynllun. Diwygiwyd y cynllun a chymeradwywyd cyllid ychwanegol o £1,866,410.

2. Torfaen

Llain 3G ar gyfer Ysgol Gyfun Gwynllyw

£1,650,000

Gwaith adeiladu yn mynd rhagddo

3. Caerdydd

Uned Canolfan Adnoddau Arbenigol Ysgol Glantaf

£129,202

Cwblhawyd

4. Caerdydd

Adnewyddu Ysgol Bro Edern

£105,421

Cwblhawyd

5. Caerdydd

Uned dros dro Plasmawr a gwaith adnewyddu

£1,148,620

Cwblhawyd

6. Conwy

Cylch Meithrin Ysgol Bro Aled

£55,644

Cwblhawyd

7. Ynys Môn

Uned gofal plant Ysgol Llanfawr

£596,800

Cwblhawyd

8. Ynys Môn

Uned gofal plant Ysgol y Graig

£298,031

Cwblhawyd

9. Castell-nedd Port Talbot

Adnewyddu Ysgol Trebannws

£460,000

Cwblhawyd

10. Castell-nedd Port Talbot

Adnewyddu egin ysgol newydd Mynacholog Nedd

£550,000

Cwblhawyd

11. Powys

Adnewyddu ac estyn Ysgol Pennant

£671,473

Gwaith adeiladu yn mynd rhagddo

 

£9,000,110

 

 

Cafodd prosiect ychwanegol gymeradwyaeth ddirprwyedig ar ôl y cyhoeddiad gwreiddiol, sef £100,366 yn ystod 2022-23 i ariannu creu hwb bugeiliol yn Ysgol Morgan Llwyd. Cyflwynwyd y prosiect hwn i gael cyllid fel rhan o ail gam y Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg ac fe'i rhoddwyd ar y rhestr wrth gefn. Ym mis Hydref 2022, nodwyd ei fod yn brosiect y gellid ei gyflawni yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Cyflwynwyd achos busnes sylfaenol a chytunwyd ar £100,366 o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.

 

 

 

 

ATODIAD C – DYRANIADAU GRANT CYFALAF CYFRWNG CYMRAEG – CYMERADWYWYD GORFFENNAF 2023

 

 

Awdurdod lleol

Prosiect

Cyfalaf

1. Caerdydd

ADY Glantaf – Bydd y prosiect hwn yn creu 60 o leoedd ychwanegol posibl (30 i ddisgyblion ag anhwylderau yn y sbectrwm awtistig a 30 i ddisgyblion ag anghenion cyfathrebu ac iaith)

£7,850,000

2. Sir Ddinbych

Ysgol Bro Elwern – Adeiladu ystafell ddosbarth newydd a lle ategol yn yr ysgol

£1,066,546

3. Sir Ddinbych

Ysgol Bro Cinmeirch – estyniad 2 ystafell ddosbarth

£1,359,164

4. Sir Ddinbych

Ysgol Brynhyfryd – Mwy o leoedd a darpariaeth drochi

£1,561,924

5. Sir Ddinbych

Ysgol Tremeirchion – estyniad 2 ystafell ddosbarth

£1,255,021

6. Sir Ddinbych

Ysgol Henllan – estyniad 1 ystafell ddosbarth

£558,341

7. Bro Morgannwg

Ysgol Iolo Morganwg – Uned hunangynhwysol i ddarparu lleoliadau trochi cyfrwng Cymraeg, yn ogystal â chynnig gwersi Cymraeg i oedolion, yn enwedig y rhai sy'n byw o fewn y datblygiad preswyl.

 

£888,807

Cyfanswm

 

£14,539,803

 

 



[1] Cyllidebau o fewn Llinellau Gwariant yn y Gyllideb Cymraeg 2050 (Grant Addysg i Awdurdodau Lleol), Cymraeg mewn Addysg, y Gymraeg a Chomisynydd y Gymraeg yn unig.